Senedd Cymru / Welsh Parliament

Y Grŵp Trawsbleidiol ar STEMM

Cyfarfod am 18:30, ddydd Mawrth 12 Mawrth, ar Teams

Cofnodion

Yn bresennol: David Rees AS (Cadeirydd), Mark Isherwood AS (Is-Gadeirydd), Niall Sommerville (Ysgrifenyddiaeth), Dr Geertje van Keulen, yr Athro Jas Pal Badyal, Mike Charlton, Faron Moller, Wendy Sadler, Cerian Angharad, George Baldwin, Keith Jones, Leigh Jeffes, Benjamin Lloyd, Mike Edmunds, Stefan James, Phil Newton, Dave Harwood, Emma Yhnell, Tom Addison, Paul Bulmer, Mabrouka Abuhmida

1)     Croeso

 

Croesawodd y Cadeirydd David Rees AS yr aelodau i'r cyfarfod gan gynnwys y ddau siaradwr gwadd heddiw, yr Athro Phil Newton a Dr Mabrouka Abuhmida. Nodwyd gan fod busnes yn mynd rhagddo yn y Senedd y byddai'r agenda yn cael ei symud o gwmpas fel y byddai Mark Isherwood AS yn gallu ymuno ar gyfer y siaradwyr gwadd yn dilyn y pleidleisio.

 

2)     Ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cafwyd ymddiheuriadau gan Jack Sargeant AS, Helen Taylor, Lewis Dean, Rhobert Lewis, Megan O'Donnell.

 

3)     Cofnodion y cyfarfod blaenorol a materion yn codi

 

Nodwyd y cofnodion a’r materion sy’n codi a chyflwynir y cofnodion terfynol i'r Senedd i'w cyhoeddi ar y dudalen we.

 

4)     Y wybodaeth ddiweddaraf gan Swyddfa Gwyddoniaeth Llywodraeth Cymru

 

Cafwyd y wybodaeth ddiweddaraf am waith Swyddfa Gwyddoniaeth Llywodraeth Cymru gan Dr Robert Hoyle. Roedd hyn yn cynnwys gwybodaeth am glystyrau a phrosiect ARTHUR.

 

5)     Y wybodaeth ddiweddaraf gan gyrff proffesiynol a chymdeithasau dysgedig

Darparodd cydweithwyr ddiweddariadau llafar byr am waith perthnasol y sefydliadau a chawsant wahoddiad i gyflwyno eu diweddariadau ysgrifenedig i Niall Sommerville i'w dosbarthu yn dilyn y cyfarfod.

 

Nododd Leigh Jeffes y bydd y digwyddiad blynyddol Gwyddoniaeth a’r Senedd yn cael ei gynnal ddydd Mawrth 21 Mai, a bydd yn canolbwyntio ar yr economi werdd. Gwahoddwyd cydweithwyr i rannu syniadau am siaradwyr gyda Leigh. Bydd cyfle i bobl archebu lle yn y digwyddiad ar ôl y Pasg.

 

Siaradodd yr Athro Mike Edmunds, llywydd y Gymdeithas Seryddol Frenhinol (RAS) am y Cytundeb Tŷ Burlington a lofnodwyd yn ddiweddar sy'n sicrhau dyfodol yr RAS a chymdeithasau dysgedig eraill gan gynnwys yr RSC yn eu Pencadlys yn Nhŷ Burlington fel rhan o brydles 999 mlynedd gyda'r Llywodraeth.

 

6)     Pynciau ar gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol

 

Awgrymwyd amrywiaeth o bynciau gan gynnwys ailedrych ar drafodaethau'r Cwricwlwm i Gymru, o bosibl gyda Gweinidog newydd yn y swydd; Edrych ar ynni hydrogen a'r economi hydrogen ar ôl Gwyddoniaeth a'r Senedd; a Gofod Cymru/Strategaeth Ofod Llywodraeth Cymru. Cytunodd yr Aelodau y byddai'r rhain yn bynciau defnyddiol i'w harchwilio.

 

7)     Siaradwyr gwadd:

 

Croesawodd y grŵp ddau siaradwr gwadd ar gyfer y sesiwn heddiw yn canolbwyntio ar bwnc deallusrwydd artiffisial:

 

-         Yr Athro Phil Newton, Prifysgol Abertawe – "Deallusrwydd artiffisial mewn pynciau STEM Addysg Uwch. Heriau, Cyfleoedd a Thystiolaeth”

-         Dr Mabrouka Abuhmida, Prifysgol De Cymru – “Egluro deallusrwydd artiffisial yng Nghymru: Llywio dyfodol cymdeithas a diwydiant”

 

Roedd y sgyrsiau yn cynnwys gwybodaeth am y duedd o fewn deallusrwydd artiffisial; heriau moesegol deallusrwydd artiffisial mewn addysg; cyfleoedd dysgu; cyfleoedd i ddiwydiant yng Nghymru fanteisio ar ddeallusrwydd artiffisial; yr angen i uwchsgilio gweithwyr mewn deallusrwydd artiffisial; materion sy'n wynebu deddfwrfeydd, gan gynnwys yng Nghymru, ar reoli manteision ac anfanteision deallusrwydd artiffisial; ac ymgorffori gwybodaeth a dealltwriaeth ynghylch deallusrwydd artiffisial o fewn y system addysg.

 

Yn dilyn y cyflwyniadau, atebodd y siaradwyr gwestiynau o’r llawr.

 

8)     Unrhyw fater arall

 

Cytunodd y grŵp i anfon eu llongyfarchiadau at yr Athro Tom Crick a benodwyd yn ddiweddar yn Brif Gynghorydd Gwyddonol yn yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS). Cytunodd y grŵp i ysgrifennu at yr Athro Crick a’i wahodd i gyfarfod yn y dyfodol.

 

Nodwyd mai hwn oedd y Grŵp Trawsbleidiol olaf ar gyfer yr Athro Mike Edmunds, RSA, a'r Athro Mike Charlton, LSW, sydd ill dau yn rhoi'r gorau i'w rolau presennol. Diolchodd y Cadeirydd a'r aelodau i'r ddau gydweithiwr am eu gwaith a'u cefnogaeth i'r Grŵp Trawsbleidiol dros y blynyddoedd.